CYMRAEG | ENGLISH |
Rownd A Rownd Cyfres 26 / Pennod 50 Dydd Mawrth 10 Awst 2021 BBC Cymru ar S4C 20:25 Rownd A Rownd Cyfres 26 / Pennod 51 Dydd Iau 12 Awst 2021 BBC Cymru ar S4C 20:25 | Rownd A Rownd Series 26 / Episode 50 Tuesday 10 August 2021 BBC Wales on S4C 20:25 Rownd A Rownd Series 26 / Episode 51 Thursday 12 August 2021 BBC Wales on S4C 20:25 |
Ar ôl bod yn gweld tad Caitlin, mae John wedi cael gafael ar asgwrn ac yn grediniol ei fod yn medru herio'r gwasanaethau cymdeithasol a sortio bywyd Caitlin, ond daw'n amlwg bod ei frwdfrydedd yn achosi mwy o broblemau nag y mae’n eu datrys. Wrth i Gwenno drio’i gorau i helpu Carwyn yn yr iard, bydd angen dipyn mwy o help i feirioli teimladau ei phlant tuag ati. Mae Rhys yn dod i benderfyniad pwysig ynglŷn â’i ddyfodol, a all effeithio ar fwy nag un arall. Aiff pethau o ddrwg i waeth yn yr Iard wrth i Iolo gerdded allan ond llwydda Anest i achub y sefyllfa gan adfer y berthynas efo'i thad. Mater cwbl wahanol yw ei pherthynas gyda’i mam yn anffodus. Er bod Barry'n cytuno i dderbyn y pris a gynigir am y sied dan bwysau gan John a Rhys, cawn yr argraff bod ganddo gynllun dirgel ar y gweill. Wedi gweld Mathew yn dioddef o flaen y disgyblion mae Dylan yn cymryd arno'i hun i drio helpu, sy'n rhoi Iolo mewn lle câs iawn. Mae angen cynyddol Mathew am dabledi yn ei arwain i drafferth mawr, ac mae'n darganfod ei hun mewn sefyllfa hynod ddifrifol. | Following his meeting with Caitlin’s father, John has become determined that he can challenge social services and help sort Caitlin's life but it becomes clear that his enthusiasm is causing more problems than it is solving them. As Gwenno tries her best to help Carwyn in the Iard, it becomes apparent that she will need a lot of help to change her children's feelings towards her. Rhys makes an important decision about his future, which may affect more than one other. Things go from bad to worse at the Iard as Iolo walks out, but Anest manages to save the day and restore her relationship with her father. Unfortunately, her relationship with her mother is a completely different matter. Although John and Rhys have managed to persuade Barry to agree to accept the price offered for the shed, viewers will get the impression that he is up to something. Vince is put in an awkward position when he bumps into Ken. Mathew's growing dependance on tablets leads him to big trouble. |